The Sun Report
World News

DBS yn cefnogi Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru 2026

By Disclosure and Barring Service ·

Open Government Licence

Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei chynnal rhwng 9 a 13 Tachwedd 2026, yn dod â sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru ynghyd i ystyried ymwybyddiaeth o ddiogelu, dysgu ac arferion.

Mae gwiriadau DBS yn un rhan o gyfraniad DBS at ddiogelu. Yn dibynnu ar rôl, sefydliad ac amgylchiadau gweithiwr proffesiynol, gall agweddau eraill sy’n ymwneud â DBS fod yn berthnasol hefyd, gan gynnwys cymhwysedd ar gyfer gwiriadau, gweithgareddau wedi’u rheoleiddio, cyfrifoldebau atgyfeirio, a gwahardd.

Yn ystod Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru, bydd DBS yn cyfrannu arbenigedd ar y pynciau hyn at weithgareddau a drefnir gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru.

Gweithio gyda phartneriaid diogelu ledled Cymru

Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru yn trefnu rhaglenni o weithgareddau a sesiynau dysgu trwy gydol yr wythnos.

Mae DBS yn cyfrannu arbenigedd at nifer o’r sesiynau hyn drwy Owain Rowlands, Cynghorydd Allgymorth Rhanbarthol DBS ar gyfer Cymru.

Mae’r gweithgareddau sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys:

Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro

  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Hanfodion DBS Dydd Llun 9 Tachwedd, 10am i 11am

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Hanfodion DBS

Dydd Llun 9 Tachwedd, 10am i 11am

Bwrdd Diogelu Gwent

  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Gweithdy ar y Ddyletswydd Gyfreithiol i Atgyfeirio Dydd Llun 9 Tachwedd, 2pm i 3pm

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Gweithdy ar y Ddyletswydd Gyfreithiol i Atgyfeirio

Dydd Llun 9 Tachwedd, 2pm i 3pm

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Sesiwn Ymwybyddiaeth Dydd Mercher 11 Tachwedd, 2pm i 3pm

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Sesiwn Ymwybyddiaeth

Dydd Mercher 11 Tachwedd, 2pm i 3pm

Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Gweithdy ar y Ddyletswydd Gyfreithiol i Atgyfeirio Dydd Gwener 13 Tachwedd, 9:30am i 10:30am

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Gweithdy ar y Ddyletswydd Gyfreithiol i Atgyfeirio

Dydd Gwener 13 Tachwedd, 9:30am i 10:30am

Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Ymddygiad Niweidiol y Tu Allan i’r Gweithle Dydd Gwener 13 Tachwedd, 1pm i 2pm

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Ymddygiad Niweidiol y Tu Allan i’r Gweithle

Dydd Gwener 13 Tachwedd, 1pm i 2pm

Pynciau DBS a archwilir yn ystod yr wythnos

Ar draws gweithgareddau’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, mae pynciau DBS sy’n codi’n rheolaidd yn cynnwys:

  • gwiriadau DBS a chymhwysedd
  • y gweithlu a lefel y gwiriad
  • gweithgareddau wedi’u rheoleiddio
  • cyfrifoldebau atgyfeirio, gan gynnwys y ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio
  • gwahardd

Mae sesiynau Caerdydd a’r Fro a Gogledd Cymru yn cwmpasu ystod eang o bynciau Datgelu a Gwahardd. Mae Gwent a Chanolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnwys sesiynau sy’n canolbwyntio’n benodol ar y Ddyletswydd Gyfreithiol i Atgyfeirio. Mae sesiwn Gorllewin Morganwg yn archwilio ymddygiad niweidiol y tu allan i’r gweithle, risg o niwed, gwahardd ac atgyfeiriadau gwahardd.

Mae’r sesiynau’n cael eu trefnu a’u cynnal gan y Byrddau Diogelu Rhanbarthol priodol, gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cyfrannu arbenigedd Datgelu a Gwahardd fel rhan o’u gweithgarwch Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru ehangach.

Recriwtio mwy diogel a gwiriadau’r DBS

Mae’r math o wiriad DBS a all fod ar gael yn dibynnu ar y rôl.

Gall sefydliadau ddefnyddio canllawiau DBS i ddarganfod pa fath o wiriad y gallant ei gael ar gyfer rôl benodol.

Darganfod pa fath o wiriad DBS y gallwch ei gael

Cyfrifoldebau atgyfeirio

Efallai y bydd gan sefydliadau gyfrifoldebau ynghylch gwneud atgyfeiriadau i DBS.

Mae canllawiau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn egluro pwy all wneud atgyfeiriad, pwy sydd â dyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio a’r amodau sy’n berthnasol.

Gwneud atgyfeiriadau gwahardd i DBS

Cymorth y tu hwnt i Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru

Mae gwybodaeth, canllawiau a chymorth DBS yn parhau i fod ar gael y tu hwnt i sesiynau unigol ac Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru.

Mae Ymgynghorwyr Allgymorth Rhanbarthol DBS yn darparu cymorth pwrpasol i sefydliadau o fewn eu rhanbarthau dynodedig. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cymorth gydag ymholiadau sy’n gysylltiedig â DBS, gwiriadau DBS a gwybodaeth am ddyletswyddau neu bwerau atgyfeirio.

Dysgu rhagor am wasanaeth Allgymorth Rhanbarthol DBS

Originally published by GOV.UK News & Communications

UK veteran support centre network to more than double

How Amendment 3, vaccine mandates and school vouchers will shape Florida under the leadership of Byron Donalds

How Ghana’s new license to sell sustainable timber improves institutions & collaboration (analysis) 

Defending media freedom and the safety of journalists: UK statement to the OSCE, November 2026